Mae gan defnyddwyr y Rhyngrwyd enwau unigryw er mwyn gallu gwahaniaethu rhyngddynt a defnyddwyr eraill. Gelwir yr enwau hyn yn Enwau Parth.
Er enghraifft, yn y cyfeiriad e-bost: prifathro@enwysgol.ardal.sch.uk, yr Enw Parth yw enwysgol.ardal.sch.uk.
Yn y cyfeiriad safle ar y we: http://www.enwysgol.ardal.sch.uk/cyrsiau.html, yr Enw Parth yw enwysgol.ardal.sch.uk.
Pam fod angen Enw Parth ar eich ysgol?
Mae'r defnydd o ddulliau cyfathrebu electronig yn cynyddu'n gyflym, ac mae Enw Parth cofrestredig yn arf gwerthfawr dros ben. Bydd yn galluogi eich ysgol i arddangos gwybodaeth ar y We Fyd Eang, a bydd unrhyw un sydd â mynediad i'r Rhyngrwyd yn gallu darllen y wybodaeth yna (fel prosbectws), neu fel arall gellir ei ddefnyddio i anfon a derbyn gohebiaeth e-bost bersonol.
Sut fydd yr Enw Parth yn gweithio?
Ni fydd cofrestru Enw Parth o reidrwydd yn rhoi eich ysgol ar y Rhyngrwyd. Bydd angen i chi hefyd sefydlu cyswllt Rhyngrwyd er mwyn defnyddio'r Enw Parth: mater hawdd yw gwneud hyn trwy Ddarparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) ond fe fydd y Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd yn codi tâl am y gwasanaeth yma.
Defnyddio'r Rhyngrwyd yn ddiogel
Mae angen i athrawon a rhieni fod yn ofalus wrth ganiatáu mynediad at y Rhyngrwyd i blant. Er hynny, ni ddylai'r perygl posib o ddeunydd anweddus atal eich disgyblion rhag defnyddio'r dechnoleg. Mae manteision addysgol dysgu drwy'r Rhyngrwyd yn gwrthbwyso unrhyw beryglon posib.
Nominet UK
Mae Nominet UK yn rheoli Cronfa Ddata Gofrestru pob Enw Parth Rhyngrwyd sy'n diweddu gyda .uk. Cwmni nad yw'n gwneud elw ydyw a sefydlwyd ym 1996.
| Cyswllt: | Minerva House, Edmund Halley Road, Oxford Science Park, Oxford OX4 4DQ |
| Ffôn | 01865 332244 |
| Ffacs | 01865 332288 |
| Cyfeiriad safle ar y we: | http://www.nominet.org.uk |
Asiantaeth Cyfathrebu a Thechnoleg Addysg Prydain (Becta)
Gwaith Asiantaeth Cyfathrebu a Thechnoleg Addysg Prydain (Becta) yw sicrhau bod technoleg yn cefnogi'r ymgyrch i godi safonau addysgol. Nod Becta yw darparu'r arbenigedd proffesiynol i gefnogi datblygiad y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu yn y dyfodol. Corff sy'n gweithredu ar draws y DU yw Becta ac mae'n gweithio'n agos gyda'r adrannau llywodraeth perthnasol led led gwledydd y DU.
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Adran Hyfforddiant ac Addysg